Sunday, 23 March 2008

PEPE BLANCO ESCRIBE......






Pepe Blanco – Blogista Chileno

Diolch byth bod gan rai pobl dipyn o weledigaeth! Mi fase hyn yn gallu bod yn rili cwl i’ch cael chi’r bobl Gymraeg a’r notsoffortiwnet at ei gilydd yn yr ysbryd gwerinol. Bla bla bla ac ati. Wfft i’r sin Wyddelig!

Dwi ddim yn gallu aros tan Awst i ddod i flasu’r traddodiadau Cymreig fel binjdrincio, ac ati. Mae’n bosib y bydd fy mrawd Tarado yn dod hefyd i chwarae’r llamadisecada – hen offeryn o’r Andes sy’ ddim ond yn canu un nodyn oherwydd ei fod yn offeryn eitha’ mawr ac mae’n anodd chwarae eich bysedd ar y tyllau’r pen arall tra’r ydych yn chwythu i lawr y pen yma – os dach chi’n gweld be dwi’n feddwl – ond mae Tarado’n ei chwarae gydag angerdd anferthol chwarae teg iddo.


It’s a hell of a good job some people have got vision! This could be really cool to give the Welsh some positive international exposure on the folk scene. What’s Ireland got that Wales hasn’t?! (Answers on a post card). Bla bla bla.

Can’t wait for August – trying out Welsh traditions like bingedrinking and things. There’s a chance my brother Tarado will be coming along as well to play the llamadisecada, an old Andean instrument that only does one note because it’s a huge instrument and really hard to work your fingers over the holes at the other end when you’re blowing down this end – if you see what I mean – but Tarado plays it with great passion. He’s a lovely boy.


Tuesday, 18 March 2008

FFWRDD A NI! AWAY WE GOOO!



DYMA NI WEDI DECHRAU AR EIN HYNT ERS SAWL MIS O BWYLLGORAU A THRIN A THRAFOD DROS WYDRAU O GWRW MWYN...


Bai Bryn Peryddon ydy popeth: fo a'i syniadau mawreddog.."dwi 'di bwcio y clwb rygbi a 'dan ni mynd i gael gwyl werin yma...be' ti'n meddwl, 'ngwas i?" Ardderchog...'mewn am geiniog, mewn am bunt'...Mae eisiau tipyn o ddiwyddiant, mae wastad eisiau mwy o ddiwyddiant, yn arbennig cerddoriaeth yn fyw, cerddoriaeth y pobl.


Cerddoriaeth werin: mae pob dull o gerddoriaeth yn gerddoriaeth werin, yn ol Duke Ellington "wyt ti 'di clywed ceffyl yn canu?"


MWY I DDILYN...PLIS, DEWCH HEFO NI AR EIN TAITH!


A DEWCH YN LLU, YMUNWCH A NI AR DDYDD GWENER/SADWRN Y 15FED A 16FED O AWST 2008 YN NGLWB RYGBI'R WYDDGRUG, SIR FFLINT.


GWELER http://www.tegeingl.com/ am fanylion a'r rhestr anhygoel o berfformwyr



WELL, WE STARTED ON OUR WAY SEVERAL MONTHS BACK, AND DULY DISCUSSED MANY A THING OVER PINTS OF SAVOURSOME ALE...


Bryn Peryddon's fault it all was...him and his visionary aplomb..."I've booked the rugby club and we're going to have a folk festival here, all right, ol' mate, whadjafink?" Brill! A bijou little festette! Always need culture...every little bit helps, and above all we need the people's music, live and kicking.


All music is folk music according to Duke Ellington, "have you ever heard a horse sing?"


MORE WILL FOLLOW...PLEASE COME WITH US ON OUR JOURNEY...


AND JOIN US FOR THE TEGEINGL FESTIVAL ON FRIDAY AND SATURDAY 15TH/16TH AUGUST 2008 IN MOLD RUGBY CLUB, FLINTSHIRE.


See http://www.tegeingl.com/ for further details & the exciting list of performers.


TEGEINGL GWYL Y WERIN CUDD

TEGEINGL THE FESTIVAL OF HIDDEN FOLK